Rhif y ddeiseb: P-06-1381

 

Teitl y ddeiseb: Gwrthodwch bob cynllun ar gyfer Taliadau Defnyddwyr Ffyrdd, Parthau Atal Tagfeydd ac Ardollau Parcio mewn Gweithleoedd yng Nghymru

 

Geiriad y ddeiseb:  Ar adeg pan fo pobl yn ei chael hi’n anodd ymdopi â chostau byw, nid yw’n ymarferol i bobl fynd i gostau er mwyn gorfod teithio rhwng ac ar draws trefi a dinasoedd Cymru. Bydd cynlluniau fel yr un sy’n cael ei ystyried yng Nghaerdydd, er enghraifft, yn effeithio’n anghymesur ar y rheiny sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd, er gwaetha’r honiadau bod pobl mewn ardaloedd tlotach yn llai tebygol o fod yn berchen ar gar. Mae pobl Cymru am ei gwneud yn gwbl glir NAD YDYM yn cefnogi gweithredu’r cynlluniau hyn.  Cynllun gwneud arian yn unig yw’r cynlluniau ar gyfer taliadau ffyrdd, parthau atal tagfeydd ac ardoll parcio mewn gweithleoedd.

 

Dyma linc i’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer Caerdydd sy’n dangos yn glir mai’r bwriad yw rhoi tâl arall ar ddefnyddwyr ffyrdd.

https://keepingcardiffmoving.co.uk/cy/project/cynllun-tal-defnyddwyr-ffyrdd-caerdydd/

 


1.        Y cefndir

Mae’r syniad o gyflwyno cynlluniau i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd fel arf i annog pobl i beidio â theithio mewn ceir preifat wedi cael ei drafod yn helaeth. Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu fframwaith ar gyfer “codi tâl teg a chyfartal ar ddefnyddwyr ffyrdd yng Nghymru” ac mae’r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaetholyn cynnwys amserlen ar gyfer y gwaith hwn, sef rhwng 2022 a 2026.

Cyn hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad annibynnol o gynlluniau i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yng Nghymru, a ystyriodd yr achos o blaid ac yn erbyn y syniad.

Yn ei adroddiad, a gyhoeddwyd yn 2020, 'Covid-19 Recovery: Renewing the Transport System’’, mae’r Campaign for Better Transport yn galw am ddulliau newydd o greu refeniw, fel ardollau parcio yn y gweithle a chodi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy. Yn fwy diweddar, mae adroddiad Centre for Cities, a gyhoeddwyd yn 2023, sef Understanding transport in Wales’ citiesyn argymell codi tâl i atal tagfeydd neu ardoll parcio yn y gweithle yng Nghaerdydd, ac ardoll parcio yn y gweithle yn Abertawe, Casnewydd a Wrecsam i newid y ffordd mae pobl yn teithio.

Mae'r deisebydd yn dadlau yn erbyn gorfodi modurwyr i ysgwyddo costau ychwanegol o ystyried y problemau costau byw presennol. Fel y nodwyd yn erthygl Ymchwil y Senedd yn 2020, roedd Aelodau o’r Senedd ddiwethaf (y Cynulliad ar y pryd) yn pryderu am y cynlluniau ar gyfer Caerdydd ar y pryd.

Pwerau Llywodraeth Cymru

Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru bwerau o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (Deddf 2000) i gyflwyno cynlluniau codi tâl ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn. Mae Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (y Bil), a basiwyd gan y Senedd ym mis Tachwedd, ond nad yw mewn grym eto, yn diwygio Deddf 2000 i ganiatáu i’r Llywodraeth gyflwyno cynlluniau er mwyn lleihau neu gyfyngu ar lygredd aer.

Mae'r  Memorandwm Esboniadol  ar gyfer y Bil hefyd yn amlinellu bwriad Llywodraeth Cymru i gychwyn darpariaethau perthnasol o dan Ddeddf 2000 i ganiatáu i awdurdodau lleol (naill ai ar eu pennau eu hunain, neu mewn partneriaeth ranbarthol) gyflwyno cynlluniau codi tâl ar ffyrdd lleol.

Parthau Aer Glân

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at y pwerau sy'n cael eu defnyddio i greu Parthau Aer Glân lle gellid codi tâl ar yrwyr cerbydau penodol am deithio mewn parth diffiniedig. Yn ystod dadl cyfnod pedwar ar y Bil, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS:

…Byddai unrhyw gynlluniau o'r fath yn darparu mesur pan fetha popeth arall i fynd i'r afael â materion ansawdd aer lleol … Dim ond pan fydd tystiolaeth yn gwneud achos digon cymhellol dros gynlluniau i fynd i'r afael â phroblemau llygredd aer parhaus y caiff parthau o'r fath eu cyflwyno, a lle nad yw dulliau eraill wedi bod yn ddigonol i sicrhau cydymffurfiaeth.

Ar hyn o bryd, mae saith Parth Aer Glân yn Lloegr a phedwar Parth Allyriadau Isel (lle mae mynediad i ardal benodol wedi'i gyfyngu yn achos y cerbydau sy'n llygru fwyaf) yn yr Alban.

Mae'r rhan fwyaf o achosion o dorri terfynau ansawdd aer statudol yn y Deyrnas Unedig yn digwydd wrth i nitrogen deuocsid grynhoi ar ymyl ffyrdd, ac mae 80% o hynny’n deillio o drafnidiaeth ffyrdd.  Amcangyfrifir bod aer gwael yn achosi rhwng 29,000 a 43,000 o farwolaethau bob blwyddyn.

Yn 2018, cafodd achos llys ei ddwyn yn erbyn Llywodraeth Cymru am dorri terfynau nitrogen deuocsid ac, yn dilyn hynny, mae wedi cyflwyno terfynau cyflymder o 50mya mewn pum safle ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd. Yn ôl adroddiadau yn y wasg, gellid cyflwyno Parthau Aer Glân mewn dau o'r safleoedd hyn (yr M4 yng Nghasnewydd a'r A740 ym Mhontypridd) os nad yw'r terfyn cyflymder is yn lleihau llygredd.

Ardoll parcio yn y gweithle

Mae’r ardoll parcio yn y gweithle yn codi tâl ar fusnesau am eu mannau parcio. Hyd yma dim ond un ardoll sy'n cael ei defnyddio ym Mhrydain Fawr, a hynny yn Nottingham.

Argymhellodd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (Comisiwn Burns). y dylid cyflwyno ardoll parcio yn y gweithle yng Nghaerdydd a Chasnewydd unwaith y bydd opsiynau trafnidiaeth newydd ar gael a bod fframwaith polisi trosfwaol ar waith. Yn y cyfamser mae Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (sydd hefyd yn cael ei gadeirio gan yr Arglwydd Burns) yn awgrymu “na fyddai’n briodol cyflwyno ardoll parcio yn y gweithle yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd oherwydd diffyg dewisiadau amgen i'r car”.

Cynlluniau yng Nghaerdydd

Mae’r deisebydd yn cyfeirio’n benodol at gynlluniau yng Nghaerdydd i gyflwyno cynllun codi tâl ar ddefnyddwyr ffordd. Dywed Cyngor Caerdydd ei fod am “edrych ar ystod o gynlluniau gan gynnwys, ymhlith eraill, Taliadau Defnyddwyr Ffyrdd, Parthau Tagfeydd, Parthau Aer Glân ac Ardollau Parcio mewn Gweithleoedd”. Mae’n awgrymu y byddai unrhyw gynllun o’r fath yn cael ei weithredu o tua 2027 ymlaen.  

Cynigiwyd cynlluniau ar gyfer codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn wreiddiol yn y Papur Gwyn Trafnidiaeth a gyhoeddodd y Cyngor yn 2020. Yn dilyn y cynigion hyn, ysgogwyd Llywodraeth Cymru i gomisiynu ei hadolygiad annibynnol o gynlluniau i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd a drafodwyd yn gynharach.

2.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Yn ei lythyr at y Cadeirydd dyddiedig 12 Ionawr, mae’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, yn nodi y byddai’r Llywodraeth yn mabwysiadu cynlluniau codi tâl mewn Parthau Aer Glân dim ond pan fyddai popeth arall wedi methu.  Mae'n amlinellu bod Parthau Aer Glân yn “fesurau wrth gefn rhagofalus” ar gyfer yr A470 ym Mhontypridd a'r M4 yng Nghasnewydd, fel y nodwyd yn gynharach yn y papur hwn.

Dywed y Dirprwy Weinidog fod Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd wedi cynnal trafodaethau ynghylch y cynlluniau.

Er bod y llythyr yn awgrymu y gellid defnyddio cynlluniau i gyrraedd targedau o ran newid dulliau o deithio ac i ddarparu cyllid ar gyfer “gwelliannau sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus”, mae’r Dirprwy Weinidog yn cydnabod bod:

…angen cynllunio cynlluniau codi tâl i ddefnyddwyr ffyrdd yn ofalus er mwyn osgoi canlyniadau niweidiol anfwriadol, gan gynnwys cynyddu rhwystrau i gyflogaeth a datgysylltu'r rhai ar incwm isel.

3.     Camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Mae’r syniad o godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd wedi’i drafod yn y Senedd droeon, gan gynnwys wrth graffu ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) fel y trafodwyd uchod.

Ym mis Hydref 2023 gofynnodd Sam Rowlands AS gwestiwn i Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, am ardollau parcio yn y gweithle. Ymatebodd y Gweinidog gan ddweud nad oedd dim trafodaethau’n mynd rhagddynt gydag unrhyw gyngor ar hyn o bryd yn y cyswllt hwn.

Ym mis Tachwedd 2023 gofynnodd Andrew RT Davies AS a oedd gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i fabwysiadu unrhyw rai o’r argymhellion yn adroddiad Centre for Cities (y cyfeiriwyd ato’n gynharach yn y papur hwn). Yn ei hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd ganddi “unrhyw gynlluniau i fwrw ymlaen â’i argymhellion ynghylch taliadau atal tagfeydd, codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, cyflwyno terfynau cyflymder ar gyfer bysiau nac ardollau parcio yn y gweithle”.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.